Cynhaliwyd digwyddiad briffio a oedd yn ystyried y ffordd orau o gefnogi busnesau bach yng Nghymru gan yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies. Cynhaliodd Mr Davies y digwyddiad mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, Dirnad Economi Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Thema'r digwyddiad oedd 'cynhyrchiant', o gofio bod gan Gymru fwlch cynhyrchiant parhaus gyda'r DU yn ei chyfanrwydd a chyda rhanbarthau cystadleuwyr rhyngwladol eraill.
Meddai Mr Davies, "Mae bob amser yn bleser helpu i hwyluso trafodaethau ar sut y gallwn gefnogi busnesau bach ledled Cymru. Mae 99.3% o fusnesau yng Nghymru yn fentrau bach neu ganolig (BBaCh) ac mae'n bwysig i ni archwilio'r cyfleoedd sydd yna i hybu twf busnesau bach a chanolig."
"Mae angen polisïau cyfeillgar i fusnesau i fynd i'r afael â bwlch cynhyrchiant parhaus Cymru, a chlywsom gan y siaradwyr heddiw bod angen rhagor o gefnogaeth mewn meysydd fel datblygu sgiliau, gwella’r seilwaith a chynllunio."
"Fel rydw i wedi’i ddweud o'r blaen, mae gan Lywodraeth Cymru rai ysgogiadau economaidd pwysig, ac mae'n rhaid iddi nawr ddefnyddio'r ysgogiadau hynny i greu amodau ar gyfer twf yng Nghymru. Pan fydd busnesau bach yn ffynnu, gwyddom eu bod yn creu swyddi, yn lledaenu ffyniant ac yn cadw ein cymunedau'n fywiog ac mae'n hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn gwneud mwy i gefnogi ein busnesau bach a'u galluogi i dyfu."