Mae'r Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi arwain dadl yn y Senedd ar bwysigrwydd busnesau bach. Cyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr, roedd Mr Davies yn awyddus i annog Aelodau o'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau bach. Hefyd, galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi busnesau trwy ddiwygio'r system ardrethi busnes, buddsoddi mewn sgiliau a sicrhau bod arferion caffael yn fwy hygyrch i fusnesau llai o ran maint.
Dywedodd Mr Davies, "Mae busnesau bach yn gwneud cyfraniad enfawr i'r economi a'n cymunedau lleol, ac rydw i wrth fy modd yn arwain dadl yn y Senedd ar sut y gall pob un ohonom eu cefnogi'n well. Mae pethau'n anodd ar hyn o bryd ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau sydd ganddi i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae busnesau bach yn parhau i'w hwynebu. Cyhoeddodd y Canghellor rai mesurau cadarnhaol i gefnogi busnesau yr wythnos diwethaf, ac wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb, rwy'n gobeithio gweld rhai mesurau i gefnogi busnesau yn y gyllideb hon hefyd.”
Ychwanegodd, "Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr, ac mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn atgoffa pawb i siopa'n lleol, lle bynnag y bo modd. Fe allwn ni gefnogi busnesau lleol mewn ffyrdd eraill hefyd, fel ysgrifennu adolygiad ar-lein, hyrwyddo busnes ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed argymell busnes i deulu a ffrindiau. Gall pob un ohonom helpu ein busnesau bach i oroesi, ac felly rwy'n annog pawb i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach a chefnogi ein busnesau lleol gwych."