Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, ddigwyddiad briffio mewn partneriaeth â Dirnad Economi Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn y Senedd. Rhoddodd y sesiwn friffio gyfle i’r Aelodau o’r Senedd a’u staff gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr economi a’r problemau sy’n effeithio ar fusnesau bach yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd Mr Davies, "Mae busnesau bach yn parhau i wynebu sawl her ar hyn o bryd ac felly roedd yn bwysig clywed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a Dirnad Economi Cymru am rai o’r ffyrdd y gall y llywodraeth yma yng Nghymru a llywodraeth San Steffan eu cynorthwyo’n well. Roedd y cyflwyniadau a gawsom yn rhagorol ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wleidyddion ofyn cwestiynau am sut y gallwn gynorthwyo busnesau’n well yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau.”
“Er nad oes gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau macro-economaidd, mae ganddi ysgogiadau economaidd sylweddol a all helpu i greu’r amodau ar gyfer twf yng Nghymru. Roedd hi’n amlwg bod angen buddsoddi mwy yn y sector sgiliau, mae angen gwneud mwy i wella mynediad at gyllid, ac roedd galw hefyd am fwy o gymorth i helpu busnesau i ddatgarboneiddio. Mae’r rhain yn faterion y byddaf yn parhau i’w codi gyda Gweinidog yr Economi ac rwy’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu hyn wrth symud ymlaen.”