Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi cwrdd â rhai o gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc, grŵp cymunedol y 'Dafarn Sinc' enwog yn Rosebush, Gogledd Sir Benfro. Bu’r gymuned yn brysur yn codi arian er mwyn prynu’r dafarn yn dilyn ymddeoliad ei pherchnogion blaenorol yn 2017 ac mae wedi ffynnu, gan ennill nifer o wobrau a chydnabyddiaeth genedlaethol. Cyfarfu'r grŵp â Mr Davies i drafod eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac i drafod ffyrdd o hyrwyddo'r dafarn ymhellach.
Dywedodd Mr Davies, "Mae bob amser yn bleser ymweld â Tafarn Sinc - mae'n dafarn gymunedol wych ac yn ased cymunedol hollbwysig. Gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr lleol a’r staff sy’n gyfrifol am y ffaith bod y dafarn yn parhau i ffynnu heddiw."
Ychwanegodd: "Mae'r lletygarwch yn Tafarn Sinc heb ei ail ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol fel un o'r tafarndai gorau yng Nghymru gan y cyfryngau. Mae'r dafarn wedi'i drwytho mewn hanes lleol, wedi'i leoli ym mynyddoedd hardd y Preseli ac yn cynnig croeso cynnes i bawb. Os nad ydych eisoes wedi ymweld â'r berl leol hon, byddwn yn eich annog yn gryf i fynd yno a mwynhau popeth sydd gan Tafarn Sinc i'w gynnig."