Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, yn cefnogi Diwrnod Amser i Siarad 2023. Mae’r Diwrnod Amser i Siarad yn ymdrech genedlaethol i leihau'r stigma ynghylch dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl ac yn helpu i roi diwedd ar y stigma hwnnw.
Meddai Mr Davies, "Drwy siarad am ein hiechyd meddwl, gallwn gefnogi ein hunain ac eraill yn well. Gall iechyd meddwl gwael effeithio ar unrhyw un - o unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir ac fe ddylen ni oll gymryd eiliad i atgoffa ein hunain o'r gefnogaeth sydd ar gael i ni. Mae'r ymgyrch Amser i Siarad yn ein hatgoffa y bydd un o bob 4 ohonon ni’n profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol a gallwn chwarae rhan yn lleihau'r stigma ynghylch iechyd meddwl dim ond drwy gael sgwrs. Felly, rwy'n annog pawb i siarad am iechyd meddwl heddiw gan ei gwneud hi’n haws i siarad am y mater hwn."
I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, ewch i - https://timetotalkday.co.uk/