Ymunodd Paul Davies, yr aelod lleol o'r Senedd, â chydweithwyr a chynrychiolwyr yr NFU i ddathlu wythnos ffermio Cymreig yn y Senedd. Yn y derbyniad, cyflwynwyd adroddiad Siapio dyfodol ffermio yng Nghymru NFU Cymru, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu diogelwch bwyd a gwella gallu ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd.
Meddai Mr Davies, "Mae 2022 yn flwyddyn bwysig i ddiwydiant ffermio Cymru – mae rheoliadau newydd o bwys wedi'u pennu mewn perthynas â llygredd dŵr, mae strategaeth TB Gwartheg Llywodraeth Cymru yn cael ei hadnewyddu a bydd y Bil Amaethyddiaeth enfawr ar y gweill yr hydref hwn, a allai weddnewid y diwydiant am flynyddoedd i ddod. Yng nghanol hynny i gyd a gwrthdaro rhyngwladol parhaus, mae diogelwch bwyd yn bwysicach nag erioed. Rhaid i ni sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael gafael ar fwyd fforddiadwy o'r radd flaenaf a rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r grymoedd sydd ganddi i gefnogi ein diwydiant, nid cyflwyno mesurau a fydd yn gwneud bywyd yn anoddach i'n ffermwyr.”
Llun, chwith i'r dde: Abi Reader (Dirprwy Lywydd NFU Cymru), Roger Lewis (Cadeirydd Sir Benfro), Paul Davies AS, Aled Jones (Llywydd NFU Cymru)