Mae ymgyrch fyd-eang i helpu i gynyddu dealltwriaeth a derbyn pobl ag awtistiaeth wedi ei chefnogi gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies. Mae Mr Davies yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, a gynhelir rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2023 a'r thema eleni yw lliw. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y wlad i ddathlu niwroamrywiaeth gan gynnwys gwerthu cacennau, teithiau cerdded y sbectrwm lliw a chwisiau ar thema lliw.
Dywedodd Mr Davies, "Mae Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd yn gyfle gwych i ni ddathlu ein gwahaniaethau a helpu i wneud y byd yn lle mwy cynhwysol i bawb. Mae cymaint y gallwn ei wneud i wneud ein hamgylcheddau'n fwy ystyriol o awtistiaeth. Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr ac felly gobeithio y bydd pawb yn cymryd eiliad i feddwl sut y gallan nhw gefnogi'r achos, cynyddu dealltwriaeth a helpu i dderbyn pobl ag awtistiaeth yn Sir Benfro.
Ychwanegodd, "Er bod yr Wythnos Derbyn Awtistiaeth yn gyfle i ddathlu, rydyn ni hefyd yn gwybod bod plant yn aros misoedd yn anffodus - ac mewn rhai achosion, blynyddoedd, i gael diagnosis. Dyna'n union pam rwy'n credu bod angen Bil Awtistiaeth mor angenrheidiol yng Nghymru oherwydd dwi’n credu y byddai'r ddeddfwriaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis heddiw. Felly, er ein bod yn dathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, gadewch i ni hefyd gofio bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r rhestrau aros presennol a byddaf yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i weithredu, pob cyfle bosib."