Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi beirniadu cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer gwasanaethau pediatrig yn y Gorllewin, gan y bydd yn arwain at gau'r Uned Gofal Dydd Pediatreg (PACU) yn barhaol yn Ysbyty Llwynhelyg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dewis bwrw ymlaen ag Opsiwn 1 o'r cynlluniau yn ei ymgynghoriad diweddar, a fydd yn golygu y byddai plentyn â salwch acíwt sydd angen ei dderbyn yn cael ei drin yn Ysbyty Glangwili.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n hynod siomedig fod yr Uned Gofal Dydd Pediatreg yn ysbyty Llwynhelyg bellach ar fin cau. Mae hon yn ergyd drom arall i'r ysbyty a dyma'r diweddaraf mewn cyfres o doriadau difrifol i wasanaethau'r ysbyty yn ystod y blynyddoedd diwethaf."
"Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn cau yn 2014, rhybuddiais fod hwn yn dir bregus a fyddai'n gwneud gwasanaethau'n fwy agored i gael eu cau yn y dyfodol. Cefais sicrwydd gan y Prif Weinidog, a oedd bryd hynny'n Weinidog Iechyd, na fyddai hynny'n digwydd, ac eto dyma ni."
"Mae hwn yn ddiwrnod trist i deuluoedd yn Sir Benfro, a fydd unwaith eto’n gorfod teithio ymhellach am wasanaethau hanfodol."