Mae’r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi ymweld â Dragon LNG yn ddiweddar, un o'r terfynellau mewnforio Nwy Naturiol Hylifedig yn Aberdaugleddau i gyfarfod â'r Rheolwr Gyfarwyddwr Simon Ames a chlywed mwy am gynlluniau'r derfynfa i sicrhau sero-net erbyn 2029. Ymwelodd Mr Davies â'i barc solar newydd hefyd, sy'n un o'r camau y mae Dragon wedi'u cymryd i leihau ôl troed carbon y safle a chefnogi uchelgais sero-net y genedl.
Dywedodd Mr Davies, “Roedd yn bleser mawr ymweld â Dragon LNG a gweld y parc solar drosof fy hun. Mae'r tîm yn Dragon LNG yn gweithredu sawl prosiect lleihau carbon i'w helpu ar ei ffordd i fod yn derfynfa sero-net erbyn 2029 a gwnaeth clywed am eu cynlluniau datgarboneiddio argraff fawr arnaf.”
“Mae'n hanfodol bod y gwaith pwysig hwn yn cael ei gefnogi gan lywodraethau ar bob lefel, fel y gall y derfynfa ddod yn ddarparwr ynni adnewyddadwy yn yr ardal leol. Byddaf yn rhannu fy mhrofiad gyda chydweithwyr yn y Senedd ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i gefnogi Dragon LNG ar ei daith ddatgarboneiddio.”