Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi mynychu agoriad swyddogol llwybrau hygyrch newydd yng Nghlwb Saethu Targed Hwlffordd. Mae'r llwybrau wedi'u hariannu gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac maen nhw wedi'u cynllunio i alluogi grwpiau anabledd i gael mynediad llawn at yr ardal saethu a'i mwynhau, gan greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Cafwyd hefyd arddangosiad o sgiliau'r aelodau.
Meddai Mr Davies, "Roedd yn bleser mynychu agoriad y llwybrau newydd yn y Clwb Saethu. Mae'n wych gweld y clwb yn buddsoddi mewn seilwaith sy'n gyfeillgar i bobl anabl er mwyn gwneud y Clwb mor hygyrch â phosibl."
"Mae gan y Clwb dros 200 o aelodau ac roedd yn wych siarad â rhai ohonyn nhw am fanteision bod yn aelod a’r hyn y mae'r Clwb yn ei olygu iddyn nhw. Fe greodd yr arddangosiad gryn argraff arna’i hefyd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Clwb yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol."
PENNAWD LLUN: David Scheeres, Cadeirydd Clwb Saethu Targed Hwlffordd – yn eistedd. Y tu ôl i Mr Scheeres mae'r Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Martin Lewis, Maer Hwlffordd, a'r Aelod o'r Senedd Paul Davies.