Fe fu Aelod o’r Senedd dros etholaeth Preseli Penfro, Paul Davies, yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn ddiweddar i siarad â disgyblion am waith y Senedd ac Aelodau o’r Senedd, a thrafod materion gwleidyddol lleol a chenedlaethol. Fe gafodd Mr Davies gyfle i gyfarfod â thri grŵp a gwneud cyflwyniad ar hanes y Senedd a gwaith Aelodau o’r Senedd. Bu’n ateb cwestiynau’r plant a’r bobl ifanc wedyn am bynciau amrywiol gan gynnwys ei flaenoriaethau lleol, a heriau byd-eang fel y newid yn yr hinsawdd.
Meddai Mr Davies, “Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod â’r disgyblion ac yn ateb rhai o’u cwestiynau. Roedd eu diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn galondid mawr – yn wir, mae’n ddigon posibl bod yna ddarpar Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol ymysg y disgyblion!”
Meddai, “Hefyd, roedd yn gyfle gwych i mi ddweud wrth y disgyblion am fy ngwaith a’m blaenoriaethau gwleidyddol, fel cadw gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, gwella cysylltedd band eang ledled Sir Benfro, ac ymgyrchu dros wasanaethau awtistiaeth gwell ledled y wlad. Gobeithio bod y myfyrwyr wedi mwynhau’r ymweliad cymaint â mi, a’u bod wedi dysgu rhywbeth newydd am fy ngwaith neu fy marn ar faterion lleol a chenedlaethol.”