Yn ddiweddar, ymwelodd yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro â Chanolfan Maes Caer Dale (Dale Fort), canolfan breswyl yn ne'r Sir sy'n cynnal teithiau ysgol a phrifysgol. Cyfarfu Mr Davies â Tom Stamp, rheolwr y Ganolfan Breswyl i ddysgu mwy am ei waith ac i drafod y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) arfaethedig, a gyflwynwyd gan ei gyd-Aelod o'r Senedd, Sam Rowlands AS.
Meddai Mr Davies, "Mae Canolfan Maes Caer Dale yn safle trawiadol sy'n croesawu grwpiau ysgol a phrifysgol ac yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc brofi taith breswyl awyr agored fel rhan o'u taith addysgol. Mae'r cyfleusterau ar y safle o'r radd flaenaf ac mae'r staff yn angerddol am sicrhau bod plant yn cael y cyfle i fwynhau taith breswyl."
Ychwanegodd: "Fe wnaethon ni hefyd drafod y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) arfaethedig, y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands wedi bod yn eiriol drosto yn y Senedd. Mae'r Bil yn ceisio sicrhau ei bod yn ofyniad statudol fod ysgolion a gynorthwyir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cyllid i sicrhau bod pob person ifanc yn cael o leiaf un wythnos o addysg awyr agored breswyl ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd ysgol."
Meddai Mr Stamp, "Roedden ni’n falch iawn y gallai Paul ddod i Gaer Dale i weld gyda’i lygaid ei hun beth rydyn ni’n ei gynnig i'r tua 3000 o fyfyrwyr sy'n ymweld â ni yn Sir Benfro bob blwyddyn ac rydyn ni’n gobeithio ei groesawu'n ôl cyn bo hir."