Mae Paul Davies, yr A lleol wedi mynegi ei siom ynghylch penderfyniad Portfield Dental Practice yn Hwlffordd i ddychwelyd ei gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. O 1 Mehefin 2024 ni fydd y practis bellach yn darparu gofal deintyddol y GIG i'w gleifion.
Mr Davies, "Mae Portfield Practice bellach wedi ymuno â rhestr gynyddol o ddeintyddion yn y Gorllewin nad ydyn nhw’n darparu gofal deintyddol y GIG mwyach, ac rwy'n deall pam y bydd rhai cleifion yn rhwystredig ac yn poeni wrth glywed y cyhoeddiad hwn.”
“Mae'n ddigon anodd yn barod i drigolion y sir gael mynediad at ofal deintyddol y GIG yn Sir Benfro ac eto, pan dwi'n codi'r mater yn y Senedd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddweud bod pethau'n gwella.”
“Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau bod gofal deintyddol y GIG ar gael yn Sir Benfro ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i flaenoriaethu hyn ar frys.”