Mae'r AS lleol Paul Davies wedi ymweld â sioe deithiol a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Afu/Iau Prydain yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth o beryglon clefyd yr afu. Mae'r sioe deithiol yn rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Afu/Iau' sy'n tynnu sylw at effaith alcohol ar eich afu, yn ogystal â ffactorau risg eraill gan gynnwys clefyd yr afu brasterog nad yw'n gysylltiedig ag alcohol a hepatitis feirysol.
Meddai Mr Davies, "Roedd yn bleser galw heibio i sioe deithiol Caru Eich Afu/Iau - mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o ryngweithio â phobl yn y gymuned leol a'u hatgoffa o bwysigrwydd iechyd da'r afu. Eglurodd cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Afu/Iau Prydain y gellir gwrthdroi 90% o achosion o glefyd yr afu os caiff ei ddal yn gynnar. Felly, mae'n hanfodol bod dull polisi sy'n cyfuno gwella'r broses o ganfod yn gynnar gyda pholisïau i fynd i'r afael ag iechyd y boblogaeth o ran alcohol a gordewdra gan y byddai hyn yn gwella iechyd yr afu yn sylweddol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, manylion yr holl ddigwyddiadau sgrinio neu i ddefnyddio’r sgriniwr iechyd 'Caru Eich Afu/Iau' ar-lein, ewch i www.britishlivertrust.org.uk//love-your-liver