Yn ddiweddar ymwelodd yr Aelod o’r Senedd Paul Davies ag Amgueddfa Aberdaugleddau i ddysgu mwy am gyfleusterau’r amgueddfa ac i glywed am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae arddangosion yr amgueddfa’n ymwneud â hanes morwrol Aberdaugleddau, ei chymuned, a’i diwydiannau yn ogystal ag arddangosion cyfredol sy’n ystyried rôl Aberdaugleddau yn y gwaith o gefnogi gofynion ynni’r byd. Mae’r Amgueddfa wedi derbyn grant cydnerthedd dwy flynedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n gwahodd y cyhoedd i weithio gyda’r Amgueddfa i archwilio ei chydnerthedd hirdymor a’i gweledigaeth ehangach ar gyfer datblygu, yn ogystal â grant bychan gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru i weithio gyda phobl ifanc i gasglu eu barn.
Meddai Mr Davies, “Roedd hi’n bleser gwirioneddol ymweld â’r amgueddfa a siarad â Colin a Sue am sut mae’r amgueddfa’n gweithio gyda phartneriaid lleol ac ysgolion lleol. Mae’n amser cyffrous iawn i’r ardal gydag agor Tŷ Hotel y gwanwyn hwn, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar atyniadau lleol, ac rwy’n gwybod bod yr amgueddfa wrthi’n datblygu cynlluniau diddorol iawn.”
“Os nad ydych chi wedi ymweld â’r amgueddfa eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud hynny – mae’n atyniad fforddiadwy gwych a fydd, heb os, yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”
Meddai Sue Davies o Amgueddfa Aberdaugleddau, “Mae Amgueddfa Aberdaugleddau’n ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am y cyllid prosiect cydnerthedd dwy flynedd drwy ei brosiect cyffrous Milford Haven Museum Future Ready i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Mae cynlluniau ar droed i ddarparu digon o gyfleoedd i bobl o bob oed yn y gymuned i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau hwyliog a diddorol yn 2022 a 2023 ac i gyfrannu at ddatblygiad yr Amgueddfa. Rydym yn ddiolchgar i Paul Davies am neilltuo amser a dangos diddordeb drwy ymweld â’r Amgueddfa i dynnu sylw at ein taith gyffrous.”