Mae Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru wedi dod yn rhan annatod o'r calendr yn Sir Benfro, ac ymunodd yr Aelodau o'r Senedd Paul Davies a Samuel Kurtz â'r gymuned ffermio leol i ddathlu'r gorau o gynnyrch lleol, gan godi arian i elusen.
Mae’r Brecwast Ffermdy, a gynhelir bob blwyddyn, yn gyfle i'r gymuned wledig ddod at ei gilydd dros frecwast o gynnyrch lleol, gyda’r achlysur yn codi arian ar gyfer elusen y flwyddyn Llywydd yr FUW, Ian Rickman, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Casglwyd cyfanswm o dros £1,000.
Wrth siarad yn dilyn y digwyddiad, dywedodd AS Preseli Sir Benfro, Paul Davies: "Ar fore Gwener rhewllyd, fe wnaeth y brecwast fy nghynhesu a chefais ddechrau heb ei ail i’m diwrnod. Roedd y cwmni, fel bob amser, yn gynnes a chroesawgar ac roedd yn wych gweld llawer o wynebau cyfarwydd. Mae gan Sir Benfro draddodiad amaethyddol balch, ac mae'n dda gweld cynnyrch lleol yn cael ei fwynhau gan gymaint o westeion. Mae’r undeb yn gwneud gwaith gwych i hyrwyddo'r diwydiant ffermio a chefnogi ein ffermwyr ac rwy'n ddiolchgar unwaith eto am drefnu digwyddiad heddiw."
Ychwanegodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz: "Mae Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Mae'n wych mwynhau cwmni ffrindiau ffermio lleol tra'n gwledda ar frecwast lleol a chodi arian ar yr un pryd ar gyfer elusen bwysig. Gyda chymaint o ansicrwydd yn wynebu'r diwydiant amaethyddol, mae cyfle i roi’r byd yn ei le gyda ffermwyr lleol bob amser yn werth chweil. Diolch yn arbennig i holl dîm FUW Sir Benfro am gynnal digwyddiad llwyddiannus arall."