Mae’r Aelod Senedd Cymru lleol, Paul Davies, wedi ategu ei alwadau ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o gefnogi sectorau twristiaeth Cymru ac annog busnesau i ailafael ynddi’n raddol, yn dilyn sylwadau gan y Prif Weinidog sy’n awgrymu y bydd diwydiant twristiaeth Cymru ar gau ar y cyfan dros fisoedd yr haf.
Meddai Mr Davies, “Dyw cyhoeddiad y Prif Weinidog ddim wedi gwneud unrhyw beth i gefnogi busnesau twristiaeth Cymru sydd mewn dyfroedd dyfnion, a gyda chymaint o wasanaethau yn dal i fethu manteisio ar gymorth a chefnogaeth hanfodol y llywodraeth, mae’r ffaith ei fod yn dal i wrthod ystyried ffyrdd o ailagor y diwydiant ymwelwyr yn raddol yn drychinebus i’r sector. Mae sawl busnes bach ar fin mynd i’r wal, a heb gymorth na gobaith gan y Llywodraeth am y dyfodol, ni fydd eu busnesau’n gallu goroesi. Mae rhannau eraill o’r DU yn ystyried mesurau i gefnogi’r broses o ailagor cyfleusterau twristiaeth bob yn dipyn, ac mae’n hanfodol nad yw Cymru ar ei hôl hi. Byddaf yn gwneud popeth posib i godi pryderon y sector lleol gyda Llywodraeth Cymru a’u hannog nhw i newid eu tôn a’u dull gweithredu er mwyn ailgychwyn gweithgareddau twristiaeth yng Nghymru, er mwyn i’n sector gael ailagor mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy.”