Yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r cyfyngiadau clo heddiw (29 Ionawr 2021), mae Paul Davies yr Aelod o’r Senedd lleol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau datblygu ei map trywydd tuag at adferiad economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r map sy’n nodi’r mesurau allan o’r cyfyngiadau clo gynnwys targedau hanfodol mewn perthynas â chyflwyno’r brechlynnau, niferoedd yr haint yn gostwng a chynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion a busnesau.
Meddai Mr Davies: “Mae’r pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith echrydus ar les corfforol a meddyliol ein pobl ac rwy’n falch o weld rhywfaint o gynnydd i alluogi pobl i ymarfer yn yr awyr agored yn lleol gydag aelod o aelwyd arall.
Da hefyd yw gweld bod cynnydd wedi bod yn y niferoedd sydd wedi’u brechu, ond mewn ardaloedd fel Sir Benfro, mae llawer o bobl o hyd mewn grwpiau blaenoriaeth sydd eto heb dderbyn eu brechlyn cyntaf. Gwyddom nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed ac mae’n hanfodol nawr bod y broses yn cael ei chyflymu mewn ardaloedd fel Sir Benfro, fel nad ydym yn gweld loteri cod post yn datblygu ledled Cymru.
Ychwanegodd, “Wrth i’r broses o gyflwyno’r brechlyn ddechrau cyflymu, mae’n hollbwysig bod Gweinidogion yn dechrau datblygu map trywydd at adferiad economaidd yng Nghymru. Gyda’r Pasg yn prysur agosáu, mae sawl busnes ledled Sir Benfro wedi bod ar gau ers misoedd ac yn cael trafferth cadw’u pennau uwchben y dŵr. Felly, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn dechrau datblygu ei map trywydd allan o’r cyfyngiadau symud a’i bod yn darparu gwybodaeth i ysgolion a busnesau er mwyn iddyn nhw allu dechrau cynllunio a pharatoi i ailagor.”