Mae Paul Davies, Aelod o’r Senedd lleol, wedi galw am gymorth brys i’r hunangyflogedig ledled Cymru. Tynnodd Mr Davies sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru ystyried eto sut mae’n cefnogi’r hunangyflogedig a chyflwyno mesurau hygyrch i’w helpu drwy’r pandemig Covid-19.
Meddai Mr Davies, “Er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhywfaint o gymorth wedi bod ar gael, rwy’n dal i dderbyn gohebiaeth gan unigolion hunangyflogedig rhwystredig a phryderus dros ben sy’n dweud bod angen i’r cymorth fod mor hygyrch a hwylus phosibl. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar eu safbwyntiau a phwyso a mesur ffyrdd o deilwra cymorth i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddyn nhw oresgyn y pandemig hwn. Nid asedau economaidd yn unig yw llawer o’r busnesau hyn, ond asedau diwylliannol hefyd ac mae’n hollbwysig bod Llywodraethau ar bob lefel yn ymdrechu’n galetach nag erioed ac yn gwneud mwy i gefnogi’r hunangyflogedig ar unwaith.”