Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Paul Davies AS, wedi codi mater gwasanaethau damweiniau ac achosion brys Ysbyty Llwynhelyg yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog. Fe wnaeth Mr Davies holi'r Prif Weinidog am gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i 'ailwampio' neu 'ailadeiladu' Ysbyty Llwynhelyg, a fyddai'n golygu colli ei wasanaethau damweiniau ac achosion brys. Hefyd, tynnodd Mr Davies sylw at bwysigrwydd 'yr awr aur' wrth dderbyn triniaeth frys gan ddadlau ei bod hi'n hanfodol bod gwasanaethau'n aros yn yr ysbyty lleol.
Meddai Mr Davies, "Diogelu gwasanaethau ysbyty Llwynhelyg yw fy mhrif flaenoriaeth a byddaf yn codi'r mater hwn bob cyfle posib yn y Senedd. Mae gwasanaethau ysbyty Llwynhelyg wedi'u hisraddio a'u symud ymhellach i'r dwyrain ers blynyddoedd, ac nid yw hyn yn deg. Mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i ymyrryd â'r mater a gweithio gyda mi ac ymgyrchwyr lleol i sicrhau bod gwasanaethau'n aros yn Llwynhelyg a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog Gweinidogion i ddiogelu ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys lleol.”
Mae trawsgrifiad o drafodaeth y Cyfarfod Llawn rhwng Mr Davies a Mr Drakeford ar gael yma - https://record.assembly.wales/Plenary/12653