Mae newid diweddar yn y rheolau meddiannaeth ar gyfer llety gwyliau wedi'i ddodrefnu wedi'i godi gyda’r Aelod o'r Senedd Paul Davies, gan fusnes yn Sir Benfro. Galwodd Mr Davies gydag Ian a Carol Pattinson o Discover Walking Pembrokeshire yn eu heiddo a esboniodd iddo'r effaith y mae'r newid yn ei chael ar eu busnes gan ei annog i barhau i wrthwynebu'r cynigion yn y Senedd.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar iawn i Ian a Carol am ganiatáu i mi ymweld â'u busnes i esbonio'r effaith y mae newidiadau i reolau cyfraddau meddiannaeth yn ei chael ar eu busnes. Mae eu busnes yn un o lawer ledled Sir Benfro a fydd yn cael ei effeithio'n andwyol o ganlyniad uniongyrchol i'r newid rheol hwn ac mae'n rhwystredig iawn gweld nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fusnesau o’r fath. Yn hytrach, mae Gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi bwrw rhagddi gyda’r newidiadau hyn, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan y diwydiant."
"Nid gwthio busnesau fel hyn yw'r ffordd i ddatrys yr argyfwng yn y cyflenwad tai a gallai fygwth ein diwydiant twristiaeth o ddifrif. Byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn y Senedd i wrthwynebu'r rheol hon ac annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y rheoliadau hyn, yng ngoleuni'r effaith niweidiol y maen nhw’n ei chael ar fusnesau fel un Ian a Carol."
Dywedodd Ian Pattinson, "Yn union fel fy eiddo i, ni ellir gwerthu llawer o eiddo hunanarlwyo ar wahân: mae llawer yn anaddas i'w defnyddio fel anheddau parhaol ac mae llawer ohonyn nhw ymhell o'r ardaloedd cyflogaeth. Felly allan nhw ddim cyfrannu'n gadarnhaol at y broblem cyflenwad tai.
"Darllenais lawer o’r dadleuon a gyflwynwyd gan hunanarlwywyr bach, gwledig, yn ystod un o'r camau ymgynghori a chefais fy nghyffwrdd yn fawr gan yr emosiwn a leisiwyd gan y rhai a oedd yn gweld eu busnesau teuluol annwyl yn mynd i’r wal. Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwrando ac mae'n ymddangos ei bod yn benderfynol o godi arian heb boeni’r un iot am y canlyniadau.
"Ar nodyn personol, efallai fy mod yn agos at y lefel feddiannaeth o 182 ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i’n cael fy effeithio'n fawr ac nad yw'n effeithio ar holl ansawdd fy mywyd. Mae ar fy meddwl bob dydd, rwy'n cyfrif yr archebion sydd gen i ac yn meddwl tybed os a phryd y bydd yr archeb nesaf yn cyrraedd.
"Ar y gorau, bydd y mesurau sbeitlyd, dideimlad, cosbol ac wedi'u targedu'n wael hyn yn gyrru llawer o fusnesau dilys i'r wal ac ar y gwaethaf, rwy'n ofni go iawn y bydd y gwewyr meddwl a achosir gan fygythiad gwirioneddol iawn y Dreth Gyngor Premiwm hon yn gwthio rhai dros y dibyn."