Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies a'r cynghorwyr lleol David Bryan a Di Clements yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i daclo tagfeydd ar gylchfan Salutation Square yn Hwlffordd. Mae tagfeydd traffig ar y gylchfan wedi bod yn broblem enfawr i'r gymuned leol ers sawl blwyddyn, gan achosi rhwystredigaeth, damweiniau fu bron a digwydd a phobl yn colli eu hapwyntiadau neu’n gorfod eu gohirio.
Mae Mr Davies wedi codi'r mater yn Siambr y Senedd gyda'r Prif Weinidog, o gofio bod yr A4076 yn gefnffordd ac o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynghorwyr Bryan a Clements hefyd wedi bod mewn cysylltiad ag uwch swyddogion Cyngor Sir Penfro i godi'r mater ac wedi ysgrifennu at Eluned Morgan A cyn iddi gael ei hethol yn Brif Weinidog.
Medai Mr Davies, "Mae tagfeydd ar gylchfan Salutation Square wedi bod yn broblem enfawr ers sawl blwyddyn ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i geisio pasio'r baich a mynd i’r afael â’r mater. Mae trigolion lleol wedi cael llond bol bod eu pryderon yn cael eu hanwybyddu ac roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r Prif Weinidog wedi deall eu pryderon, o ystyried bod ei swyddfa ei hun ychydig lathenni o'r gylchfan."
Meddai’r Cynghorydd Bryan, "Cyn adeiladu Ysgol Uwchradd newydd Hwlffordd, roedd traffig ysgolion i Taskers yn dod o ochr orllewinol y dref i'r ysgol honno a doedd dim angen pasio trwy ganol y dref, yn benodol yr ynys draffig hon."
"Gyda dyfodiad yr ysgol newydd, mae'n rhaid i draffig o bob cyfeiriad fynd trwy'r ynys draffig hon. Y canlyniad yw tagfeydd rhwng 8.30am a 9am a rhwng 3 15pm a 4pm. Mae'r traffig cyffredinol sy'n dod adref o'r gwaith yn dechrau tua 4pm ac felly mae'n anodd iawn mynd drwy'r ardal hon o 3.15pm tan 5.45pm."
Meddai’r Cynghorydd Clements, "Mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi am yr anhawster y maen nhw’n ei chael wrth adael y Ffordd Newydd i'r gylchfan oherwydd llif traffig parhaus o'r A40 i Hwlffordd. Mae cyflymder yn broblem ynghyd â’r gallu i weld. Bu llawer o achosion o ddamweiniau fu bron a digwydd a damweiniau go iawn dros y blynyddoedd a dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei anafu'n ddifrifol eto. Rwy'n ymwybodol hefyd, gyda'r holl arian adfywio sy'n cael ei wario yn Hwlffordd ar hyn o bryd, ei bod yn bwysig nad yw traffig yn cynyddu ac yn atal pobl rhag dod i Hwlffordd yn y dyfodol."