Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd lleol, yn cynnal cymhorthfa rithwir neu ffôn arall ar gyfer etholwyr ledled Preseli Sir Benfro sydd angen cymorth a chyngor ar faterion lleol. Bydd Mr Davies yn cynnal y gymhorthfa ddydd Gwener 13 Tachwedd rhwng 10am a 12pm. Dyrennir slotiau ar sail y cyntaf i’r felin a gallwch gysylltu â swyddfa Paul ar 01437 766425.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n falch o gadarnhau y bydd fy nghymhorthfa rithwir nesaf ddydd Gwener 13 Tachwedd a hoffwn wahodd pobl sy’n byw yn etholaeth Preseli Sir Benfro sydd angen cymorth gydag unrhyw fater, i archebu slot. Rydw i yma i wrando ar eich pryderon ac eiriol ar eich rhan i Lywodraeth Cymru felly mae croeso i chi gysylltu os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i’ch helpu chi a’ch teulu yn ystod y cyfnod hwn.”