Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd y Garn y cyfle’n ddiweddar i holi Paul Davies, eu Haelod o’r Senedd lleol, wrth iddynt ymweld â Senedd Cymru. Siaradodd Mr Davies â’r plant am ei waith fel Aelod o’r Senedd ac am rai o’r materion lleol y mae wedi bod yn ymgyrchu drostynt.
Meddai Mr Davies, “Roedd yn wych cwrdd disgyblion o Ysgol Gynradd y Garn a siarad â nhw am fy rôl fel Aelod o’r Senedd.”
“Mae bob amser yn wych gweld plant ifanc yn cymryd diddordeb mor frwd yng ngwleidyddiaeth Cymru a gofynnwyd nifer o gwestiynau ardderchog i mi am bopeth o sut y gallen nhw ymgysylltu’n well â gwleidyddiaeth y Senedd, i rai o’r materion lleol y maen nhw’n teimlo y dylai fod yn uwch ar yr agenda wleidyddol.”
“Rwy’n gobeithio’n fawr bod y plant wedi cael taith ddifyr ac wedi dysgu rhywbeth newydd amdana i ac am Senedd Cymru.”