Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi codi dyfodol meddygfa Dewi Sant yn Siambr y Senedd ac wedi galw ar y Prif Weinidog i ymuno ag ef i sefyll dros y gymuned leol. Esboniodd Mr Davies y bydd tua 3000 o gleifion yn cael eu gwasgaru ymhlith meddygfeydd ymhellach i ffwrdd o dan gynlluniau presennol y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cleifion oedrannus a'r rhai sydd ag opsiynau teithio cyfyngedig. Yna gofynnodd Mr Davies i'r Prif Weinidog, sydd hefyd yn Aelod Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ymyrryd ar ran y gymuned leol, herio'r Bwrdd Iechyd lleol a helpu i sicrhau y gall preswylwyr barhau i dderbyn gwasanaethau meddygon teulu yn eu cymuned leol yn y dyfodol.
Meddai Mr Davies, "Mae'n gwbl annerbyniol y bydd yn rhaid i drigolion sy'n byw yn Nhyddewi deithio ymhellach i i dderbyn gwasanaethau meddygon teulu hanfodol ac felly rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau ac ymyrryd cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Mae'r gymuned leol wedi cynhyrfu ac yn rhwystredig ac mae'n hanfodol bod penderfyniad y Bwrdd Iechyd yn cael ei herio a bod modd dod o hyd i ffordd well o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal."
"Os bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen, bydd dinas yng Nghymru yn colli ei gwasanaeth meddygon teulu, a hynny o dan drwyn y Prif Weinidog presennol, ac roeddwn i eisiau rhoi'r cyfle i'r Prif Weinidog gydweithio ar ran pobl Tyddewi. Dylid ystyried pob un dim wrth geisio sicrhau bod modd darparu gwasanaethau meddygon teulu o hyd yn Nhyddewi a siom o’r mwyaf oedd bod y Prif Weinidog yn anfodlon cydweithio ar ran y gymuned."
Gallwch ddod o hyd i'r Cyfarfod Llawn rhwng Paul Davies a'r Prif Weinidog yma - https://record.senedd.wales/Plenary/14105#A90361 (o baragraff 87)