Yn ddiweddar, cyfarfu cynrychiolwyr lleol Cyngor ar Bopeth Sir Benfro gyda’r Aelod o’r Senedd Paul Davies. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro yn elusen annibynnol nid-er-elw sy’n helpu i ddarparu cymorth am ddim cyfrinachol a diduedd i bobl ledled y wlad. Yn ddiweddar mae’r elusen wedi symud i swyddfeydd newydd yn 36-38 Stryd Fawr Hwlffordd ac yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor ar y ffôn, dros e-bost a chyswllt fideo.
Meddai Mr Davies, “Mae wastad yn bleser o’r mwyaf dal i fyny gyda’r tîm yng Nghyngor ar Bopeth Sir Benfro. Maen nhw’n gwneud gwaith mor wych yn cefnogi pobl ledled Sir Benfro gan sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r cyngor cywir sydd eu hangen arnyn nhw. Gallant ddarparu cymorth ar faterion fel cyngor ar ddyledion, y credyd cynhwysol a hyd yn oed gwybodaeth a all eich helpu i arbed arian ar eich biliau ynni, felly cysylltwch â’r tîm os oes angen cymorth arnoch chi gyda rhywbeth. Mae’r tîm wedi bod mor gadarn yn ystod y pandemig a hyd yn oed wedi llwyddo i symud i safle newydd eleni - felly cymerwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’u swyddfa newydd a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, drwy fwrw golwg ar eu gwefan: https://www.pembscab.org/.”