Mae Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi codi gwasanaethau deintyddol y GIG eto gyda'r Prif Weinidog, yn dilyn cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n gofyn am gymorth i gael mynediad at ddeintydd GIG ledled Sir Benfro. Ymatebodd y Prif Weinidog trwy ddweud bod 17,000 yn rhagor o apwyntiadau deintyddion y GIG wedi’u darparu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eleni.
Meddai Mr Davies, "Roedd y Prif Weinidog yn bendant bod miloedd yn rhagor o apwyntiadau wedi’u darparu yng ngorllewin Cymru, ond yn sicr nid dyna'r hyn rydw i wedi’i weld na’i glywed gan fy etholwyr. Nid yw mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG erioed wedi bod mor anodd yn Sir Benfro ac mae llawer o bobl yn cael trafferth gyda chost triniaeth breifat neu orfod ymdopi mewn anghysur a phoen difrifol."
"Mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddiogelu'r gwasanaethau lleol sydd gennym a sicrhau bod cleifion yn gallu cael y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnyn nhw. Rydyn ni’n gwybod bod recriwtio yn broblem ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddod o hyd i ateb fel y gall cleifion gael mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn yn Sir Benfro."