Yn ddiweddar, cafodd gwleidyddion Sir Benfro Paul Davies AS, Samuel Kurtz AS a Stephen Crabb AS gyfarfod â Fly Wales, cwmni awyrennau siarter lleol sydd wedi’i leoli ym maes awyr Hwlffordd ac sy’n arbenigo mewn gwasanaethau medevac, siarter a chludo. Clywodd y gwleidyddion sut mae’r cwmni’n cefnogi’r GIG a gwasanaethau gofal iechyd tramor gyda dychwelyd cleifion yn ôl i’w gwledydd. Clywsant hefyd am rai o’r gwasanaethau siarter preifat y mae Fly Wales yn eu cynnig yn ogystal â gwasanaethau cludiant a phrofiadau hedfan fel hyfforddiant i beilotiaid a hediadau profiad awyr.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n ddiolchgar iawn i dîm Fly Wales a’r teulu Rees am neilltuo amser i ddangos y lle i ni a siarad am eu gwasanaethau a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n wych gweld Fly Wales yn cefnogi’r GIG a darparwyr gofal iechyd tramor mewn amryw o ffyrdd, fel hwyluso trefniadau dychwelyd cleifion i’w gwledydd ar frys a throsglwyddo clinigwyr ac organau. Mae Fly Wales yn sefydliad hyfforddiant cymeradwy hefyd, sydd wedi bod yn cynnal hyfforddiant hedfan o safon dros y tri degawd diwethaf a gallaf ddychmygu’r apêl i lawer o ran hyfforddi yn Sir Benfro, gyda’n golygfeydd gogoneddus. Fe fydden i’n annog pawb i ddysgu mwy am waith Fly Wales yn bendant - mae’n wych gweld y gweithgarwch hwn yn digwydd yng nghanol Sir Benfro a gobeithio y byddant yn parhau am lawer o flynyddoedd i ddod. Mae’n amlwg bod y maes awyr yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gefnogi’n gwasanaethau cyhoeddus yn y gorllewin.
Ychwanegodd Samuel Kurtz AS: “Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Sir Penfro a theulu Rees Fly Wales am neilltuo amser i ddangos pwysigrwydd strategol ac economaidd Maes Awyr Hwlffordd i ni.
“Ni fydd llawer yn gwybod am y gwaith da sy’n cael ei wneud o’r maes awyr, gwaith sy’n achub bywyd yn aml. Bydd helpu i ledaenu’r neges honno’n sicrhau hyfywedd hirdymor yr ased ac yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad i’n sir.
“Mae gwasanaethau pwysig eraill fel y fyddin, yr ambiwlans awyr a gwylwyr y glannau’n defnyddio’r maes awyr – ac mae hyn yn amlygu ei bwysigrwydd strategol. Heb os, dylem hyrwyddo pwysigrwydd Maes Awyr Hwlffordd.”
Meddai Stephen Crabb AS: “Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â Maes Awyr Hwlffordd ond nid wyf yn credu bod llawer yn sylweddoli pa mor bwysig ydyw i’r gorllewin. Nid yn unig mae’n ased gwych i’r ardal ac i’r busnesau ffyniannus sy’n gweithredu oddi yno, ond hefyd i holl weithrediadau achub bywyd strategol y lluoedd arfog, y GIG a Gwylwyr y Glannau y mae’n eu cefnogi yn ein sir a ledled y DU. Mae’r tîm o Gyngor Sir Penfro’n gwneud gwaith gwych yn darparu gwasanaethau 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos ac edrychaf ymlaen at weld y maes awyr yn datblygu ymhellach yn y dyfodol. Roedd yr ymweliad a’r daith o amgylch y maes awyr yn gyfle gwych i gyfarfod â’r holl bobl sy’n gysylltiedig â’r maes awyr ac ro’n i’n rhyfeddu faint o wybodaeth sydd ganddyn nhw am y diwydiant hedfan lleol a’i gyfleoedd twf a’u brwdfrydedd tuag ato.”