Ymunodd Aelodau o’r Senedd dros Sir Benfro, Paul Davies a Samuel Kurtz, â ffermwyr lleol a chynrychiolwyr ffermio ar gyfer brecwast i ddathlu Wythnos Frecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) 2023. Aeth Mr Davies a Mr Kurtz i'r digwyddiad brecwast yn Crundale i hyrwyddo manteision brecwast iach a chyfarfod â ffermwyr lleol i drafod yr heriau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd.
Dywedodd Mr Davies, "Mae hi bob amser yn bleser mynychu'r Brecwast Ffermdy blynyddol a doedd eleni ddim yn eithriad. Dwi bob amser wedi bod yn falch o gefnogi cynnyrch Sir Benfro ac roedd heddiw'n gyfle ardderchog arall i frolio’r hyn sydd gan ein ffermwyr lleol i’w gynnig. Cawsom drafodaethau diddorol iawn, a byddaf yn sicr yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i erfyn ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ein ffermwyr yn well wrth i'w Bil Amaeth weithio ei ffordd drwy'r Senedd. Hoffwn hefyd annog pobl Sir Benfro i gefnogi’r Wythnos Frecwast Ffermdy drwy brynu cynnyrch lleol a mwynhau brecwast iach yn Sir Benfro - mae yna ddigon o gynnyrch ardderchog ar gael, mwynhewch y wledd a helpwch i gefnogi'n ffermwyr."
Ychwanegodd Samuel Kurtz AS, Aelod o’r Senedd lleol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro:
"Mae ffermio yn aml yn ddiwydiant ynysig, ac felly roedd bore Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru yn Neuadd Crundale yn gyfle perffaith i gael pawb at ei gilydd, mewn un ystafell, i gael clonc a chymdeithasu.
"O denantiaid fferm y cyngor i ffermwyr gwartheg o'r bedwaredd genhedlaeth, daeth pawb ynghyd o gwmpas y bwrdd i flasu cynnyrch lleol amheuthun.
"Roedd hi’n wych bod yno yn cefnogi Undeb Amaethwyr Cymru a'r DPJ Foundation, elusen wych sy'n gweithredu ledled y wlad, gan gefnogi'r rhai mewn amaethyddiaeth a chymunedau gwledig gyda'u hiechyd meddwl."