Unwaith eto, mae’r Aelod o’r Senedd Paul Davies wedi llywio trafodaeth ar ddiogelu cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Fe wnaeth Mr Davies, sydd wedi ymgyrchu ers sawl blwyddyn i gadw a diogelu cofebion rhyfel yn well, ddefnyddio ei amser i alw am osod dyletswydd statudol ar gynghorau i ddiogelu cofebion rhyfel a chynnal rhestr ledled y wlad. Galwodd hefyd am greu ceidwad neu Swyddog Coffa Rhyfel a allai feithrin cysylltiadau ag ysgolion lleol ac addysgu ein plant a'n pobl ifanc am frwydrau'r gorffennol ac aberth trigolion lleol.
Dywedodd Mr Davies, "Er ei bod bob amser yn bleser codi mater cofebion rhyfel yn y Senedd, mae'n rhwystredig iawn taw dyma'r trydydd tro i mi gyflwyno dadl ar y mater hwn. Yn anffodus, er gwaetha'r holl eiriau cynnes gan Weinidogion y Llywodraeth dros y blynyddoedd, ychydig o gamau sydd wedi'u cymryd ac mae ein harwyr a gwympodd yn haeddu gwell.”
“Mae ein cofebion rhyfel yn rhan bwysig o'n cymunedau lleol ac mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Dylem nid yn unig barhau i anrhydeddu'r rhai wnaeth roi o'u bywydau dros ein rhyddid ninnau, ond hefyd creu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol ddysgu am aberth pobl yn eu cynefin a dysgu am ryfeloedd y gorffennol fel nad ydynt yn digwydd byth eto. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r mater hwn ac ymrwymo i adolygu ei deddfwriaeth a sefydlu Swyddogion Coffa Rhyfel ledled Cymru – gan wir obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando y tro hwn.”