Croesawyd cynigion i ostwng y terfyn cyflymder ar ffordd yr A40 yng nghanol Scleddau i 40mya gan Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro. Cafodd Mr Davies gadarnhad gan Lywodraeth Cymru y byddai'r terfyn cyflymder yn gostwng, a bod y gwaith arfaethedig wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau blwyddyn ariannol nesaf 2022/23. Rydym hefyd yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu asesiad croesfan i gerddwyr.
Meddai Mr Davies, "Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar farn y gymuned leol ac wedi ymrwymo i leihau'r terfyn cyflymder. Mae'r darn hwn o'r hewl yn eithriadol o brysur ac mae'n anodd iawn i gerddwyr groesi – yn enwedig rhai bregus neu sydd â phroblemau symudedd. Felly, mae'n wych clywed y bydd ateb cadarnhaol o'r diwedd ac y bydd y terfyn cyflymder yn cael gostwng rhywbryd yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd asesiad croesfan i gerddwyr hefyd ac rwy'n edrych ymlaen at glywed casgliadau'r asesiad hwnnw unwaith y bydd wedi'i gynnal. Yn y cyfamser, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i ysgrifennu ataf am y mater hwn. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fy ngalwadau a byddaf yn siŵr o gadw llygad barcud ar y datblygiadau a sicrhau bod y terfyn yn cael ei ostwng yn y flwyddyn ariannol nesaf."
Ychwanegodd Samuel Kurtz, Cynghorydd Sir Scleddau: “Ar ôl gweithio gyda'r Cyngor Cymuned a Paul Davies AS dros y 4 blynedd diwethaf, gan roi pwysau ar y Gweinidog a'i ragflaenydd, rwy'n falch o weld cynnydd cadarnhaol ar y mater pwysig hwn.
“Mae Scleddau yn bentref sy'n prysur dyfu gyda theuluoedd ifanc, ac mae eu diogelwch nhw a defnyddwyr eraill y ffordd yn hollbwysig. Bydd y gymuned gyfan yn rhoi croeso cynnes i'r newyddion."