Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi cyfrannu at ddadl ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Parthau Perygl Nitradau. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cymeradwyo’r rheoliadau ym mis Mawrth, gyda’r bwriad o’u cyflwyno ar 1 Ebrill 2021.
Meddai Mr Davies, “Mae cynigion dadleuol Llywodraeth Cymru ar gyfer Parthau Perygl Nitradau wedi ennyn dicter a rhwystredigaeth ffermwyr ledled Cymru. Os yw’r rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno, byddant yn cael effaith ar hyfywedd ariannol llawer o ffermydd, ac ar iechyd meddwl ffermwyr, sy’n wynebu’r rheoliadau hyn yn dilyn pandemig byd-eang sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu bywoliaethau. Rwyf wedi nodi enghreifftiau o ffermwyr lleol yn Sir Benfro sydd wedi cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â’r mater hwn, ac rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’w cynlluniau a datblygu’r gweithgarwch hwn, yn hytrach na chredu bod un model yn addas i bawb. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi rhybuddio y gallai ansawdd dŵr waethygu o ganlyniad i ddull gweithredu o’r fath.”