Mae’r Aelod lleol o’r Senedd, Paul Davies, wedi holi’r Gweinidog Iechyd yn uniongyrchol ynghylch y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg, yn dilyn y newyddion bod gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu cadw mewn rhannau eraill o Gymru. Dywedodd Mr Davies fod pobl Sir Benfro yn haeddu’r un camau i’w diogelu ag sydd ar gael i gymunedau eraill yng Nghymru. Gofynnodd beth oedd safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru ac am ymrwymiad gan y Llywodraeth i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg.
Meddai Mr Davies, “Rydym ni wedi gweld cymunedau mewn rhannau eraill o Gymru yn ymgyrchu i gadw eu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys lleol ac maent wedi llwyddo ac rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a chynnig yr un cwrteisi i bobl Sir Benfro. Mae’r ymgyrch i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg wedi dangos pa mor gryf yw teimladau’r bobl leol am y pwnc ac mae’n hynod rwystredig nad yw Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parchu dymuniad y gymuned leol ac yn gweithio i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg. Byddaf yn parhau i godi’r mater hwn ar bob cyfle posibl, tan y bydd Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn dod at eu coed ac yn troi cefn ar y cynlluniau trychinebus hyn.”