Yn ddiweddar, ymwelodd Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd, â Shalom House, hosbis yn Nhyddewi sy'n rhoi gofal lliniarol holistig i breswylwyr Sir Benfro sydd wedi cael diagnosis o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Cafodd Shalom House ei sefydlu ym 1997 a thros y blynyddoedd mae wedi rhoi gofal i gleifion mewnol, gofal seibiant a gofal dydd i breswylwyr, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i'w teuluoedd hefyd. Bu Mr Davies ar daith o amgylch y cyfleusterau a bu’n siarad â'r tîm am y modd y maen nhw’n cefnogi preswylwyr.
Dywedodd Mr Davies, "Mae Shalom House yn lle arbennig ac mae'r tîm yno yn darparu gofal o'r radd flaenaf i unigolion a'u teuluoedd. Mae'r tîm yn hynod broffesiynol ac mor ymroddedig i'w gwaith, a diddorol iawn oedd dysgu mwy am y gwahanol fath o wasanaethau a therapïau y maen nhw’n eu cynnig."
Ychwanegodd, "Yn anffodus, fel llawer o elusennau, mae pwysau ariannol arnynt ac mae angen ein cefnogaeth ninnau ar Shalom House er mwyn sicrhau y gall barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn i drigolion Sir Benfro. Maen nhw wedi sefydlu tudalen ar gyfer ariannu torfol, felly beth am fynd ati i gyfrannu rhodd a chefnogi Shalom House. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.crowdfunder.co.uk/p/shalom-house-hospice