Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi ymweld â siop DIY newydd ym Mhrendergast, Hwlffordd, ar gyffordd ffyrdd Aberteifi ac Abergwaun. Ymwelodd Mr Davies â siop DIY Day's Best Buy, sef siop galedwedd annibynnol, hen ffasiwn sy'n cadw ystod enfawr o eitemau ac yn cynnwys pob dim dan haul, o offer i gompostio i wlân ar gyfer gwau.
Meddai Mr Davies, "Mae bob amser yn wych gweld busnes newydd yn agor yn Hwlffordd ac roedd yn anrhydedd siarad gydag Andy a'i deulu am ei fusnes a dysgu mwy am y siop. Mae'n cadw amrywiaeth anhygoel o gynhyrchion ac mae ganddo rywbeth i bawb. Wrth gwrs, mae busnesau bach angen cefnogaeth y gymuned leol ac felly byddwn i'n annog pawb i alw heibio’r siop os ydyn nhw yn yr ardal. Gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth enfawr a helpu i sicrhau bod Days parhau i ffynnu yn y dyfodol."