Yn ddiweddar, fe wnaeth Paul Davies, Aelod o’r Senedd dros Sir Benfro, ymweld â Vision Arts, sef hyb creadigol newydd yn Hwlffordd. Cafodd Mr Davies y cyfle i gyfarfod Drew Baker a Fiona Phillips i drafod ffyrdd i godi proffil y celfyddydau yn Sir Benfro. Cafodd Mr Davies flas ar ei daith o gwmpas y cyfleusterau a chafodd gyfle i ddysgu mwy am y cwmni theatr, y cwmni cyngherddau a’u hacademi.
Meddai Mr Davies, “Mae’r celfyddydau mor bwysig i’n lles felly roedd hi’n braf iawn treulio amser gyda’r tîm yn Vision Arts i glywed am eu gwaith yn gwneud y celfyddydau mor hygyrch â phosibl i bobl Sir Benfro. Fe wnaeth eu cyfleusterau argraff arna’i a ches fy nghalonogi gan eu dyhead a’u hymrwymiad i godi proffil y celfyddydau yn y Sir. Os oes gennych chi neu rywun arall ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y celfyddydau yn lleol, yna Vision Arts yw’r lle i fynd – maen nhw’n cynnig popeth o gyrsiau cynhyrchu ar gyfer teledu a’r byd ffilm, i gyfleoedd i fod yn rhan o gôr neu gerddorfa - a hyd yn oed theatr ieuenctid. Ac os nad ydych am berfformio, gallwch gefnogi Vision Arts drwy fynd i weld un o’u cyngherddau neu ddramâu - mae rhywbeth at ddant pawb. Am ragor o wybodaeth, ewch i - https://www.visionartswales.com/”
Ychwanegodd Drew Baker, Cyfarwyddwr Creadigol Vision Arts: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Paul Davies AS am roi o’i amser i ymweld â ni a gweld gyda’i lygaid ei hun rai o’r ffyrdd rydym yn chwifio’r faner dros y celfyddydau mynegiannol yn Sir Benfro.
“Cawsom drafodaethau buddiol iawn gydag ef am sut y gall y celfyddydau mynegiannol gefnogi iechyd a lles ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein gweithgareddau yn y maes hwn. Am ragor o wybodaeth am Vision Arts, ewch i www.visionartswales.com"