Cafwyd cadarnhad nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed o frechu 70% o staff a thrigolion cartrefi gofal a 70% o bobl dros 80 oed erbyn dydd Gwener 22 Ionawr. Wrth ymateb i’r newyddion, mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu dosbarthiad y brechlyn yn sylweddol ac i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod pobl mewn grwpiau blaenoriaeth yn derbyn eu hapwyntiad i gael y brechlyn cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Mr Davies, “Mae’n siomedig iawn nad yw’r targed o frechu 70% o staff cartrefi gofal a phobl dros 80 oed wedi’i gyrraedd ac rwy’n parhau i dderbyn gohebiaeth gan etholwyr o bob cwr o’r Sir sy’n poeni ac yn rhwystredig nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad i gael y brechlyn eto. Ni allaf ond pwysleisio pa mor beryglus yw’r feirws hwn ac felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ystyried pob llwybr ac opsiwn i sicrhau bod pobl mewn grwpiau blaenoriaeth nawr yn derbyn y brechlyn cyn gynted â phosibl.”