Mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi beirniadu’r rheoliadau llygredd amaethyddol newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y rheoliadau, a fydd yn gweld Cymru gyfan yn cael ei dynodi’n Barth Perygl Nitradau, yn golygu y bydd rhaid i ffermwyr fuddsoddi mewn seilwaith newydd, ar adeg pan mae’r sector yn gweithio i oresgyn pandemig Covid-19 a phan fo prisiau’r farchnad ar gyfer cynnyrch amaethyddol yn parhau i fod yn anwadal.
Dywedodd Mr Davies, “Mae diwydiant amaethyddol Cymru eisoes yn wynebu nifer o heriau ac felly bydd cyflwyno rheoliadau pellach ar y sector yn rhoi mwy o bwysau nag erioed ar fusnesau ffermio a bydd hynny yn ei dro yn cael effaith ar gontractwyr amaethyddol a’r economi wledig ehangach. Mae ffermwyr wedi gwneud llawer i wella eu dulliau rheoli maethynnau eisoes dros y blynyddoedd diwethaf a dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio gyda’r sector, nid gosod rheoliadau a fydd yn niweidio’r sector ymhellach. Mae’r newyddion hwn yn siomedig iawn ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol digonol i ffermwyr allu cydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau o leiaf nad yw ffermwyr yn cael eu rhoi o dan anfantais ariannol yn sgil y penderfyniad.”