Cafodd gwasanaethau offthalmoleg, a'r amser aros am driniaeth i bobl sydd â dirywiad y macwla gwlyb, ei godi yn y Senedd gan Paul Davies, yr AS lleol. Galwodd Mr Davies ar y Gweinidog Iechyd i wneud datganiad brys ar fyrder yn amlinellu'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros a sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dirywiad y macwla gwlyb a chyflyrau eraill yn gallu cael triniaeth mewn da bryd.
Meddai Mr Davies, "Yn syml, does gan bobl sydd â dirywiad y maciwla gwlyb a chyflyrau gofal llygaid eraill ddim amser i ddisgwyl ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd triniaeth amserol ac yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i leihau amseroedd aros. Gallai'r aros ychwanegol am driniaeth arwain at ddirywiad difrifol yng ngolwg rhai cleifion, sy'n achosi llawer o boen meddwl a gofid. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch y mater hwn ac yn gwneud popeth posib i sicrhau bod cleifion yn Sir Benfro yn gallu cael eu triniaeth yn brydlon.”
Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma - https://record.assembly.wales/Plenary/12874?lang=cy-GB (o baragraff 88 ymlaen)