Ychydig a wyddem ar ddechrau 2020, y byddai'r flwyddyn ddiwethaf mor heriol i deuluoedd ym mhob cwr, wrth orfod delio â goblygiadau'r pandemig. Aeth llawer drwy gyfnodau eithriadol, gyda salwch neu waeth, ac mae sawl un wedi colli swydd neu weld eu busnes yn mynd i’r wal.
Er hynny, rwy'n obeithiol y bydd pethau'n well y flwyddyn nesaf. Rwy'n naturiol optimistaidd ac yn ystyried ein rôl fel gwleidyddion nid yn unig i arwain a gwrando, ond i ysbrydoli a chynnig gobaith hefyd. Gwn fod pobl yn disgwyl i wleidyddion weithio’n galetach mewn cyfnod o argyfwng, i ddangos eu cryfder a'u gobaith hyd yn oed pan fo pethau’n ddu.
Yr adeg hon o'r flwyddyn, rydw i fel arfer yn myfyrio ar y daioni a welais. Eleni rydw i wedi gweld llawer o bethau sy'n destun balchder a llawenydd i mi o safbwynt sut mae pobl wedi ymateb. Nyrsys, meddygon, staff cartrefi gofal, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, staff y cyngor, grwpiau cymunedol, personél y lluoedd arfog ac unigolion ysbrydoledig sy'n mynd yr ail filltir i'n diogelu ni i gyd.
Diolch o galon i bob un ohonoch.
Er gwaetha’r darlun digon llwm, dydw i ddim wedi colli golwg ar yr hyn mae pobl wedi'i wneud, ei aberthu a'i gyflawni. Y llynedd, gwelsom ysbryd, dycnwch a charedigrwydd y natur ddynol ar ei orau.
Rwy'n hyderus y bydd 2021 yn flwyddyn wahanol, gyda rhaglen frechu yn mynd i'r afael â'r feirws yn uniongyrchol a bywyd yn dechrau dychwelyd i ryw fath o normalrwydd i bob un ohonom. Credaf y daw â gobaith a hyder i bob un ohonom.
Dros y misoedd nesaf, rwy'n edrych ymlaen at osod fy llwyfan Ceidwadwyr Cymreig wrth i ni nesáu at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai. Tra mai taclo'r pandemig oedd prif ganolbwynt y 12 mis diwethaf, byddaf yn cyflwyno ein cynllun adfer ar gyfer y genedl, gan egluro ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, fel y gallwn ailgodi’n well a sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru.
Wrth i ni gamu ymlaen i 2021, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda iawn i bawb ledled Cymru, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig!