Yn ddiweddar, ymwelodd Paul Davies AS ag un o gabinetau newydd band eang cyflym iawn Ogi Cymru yn Hwlffordd. Mae Ogi wedi dechrau cysylltu'r tai a'r busnesau cyntaf yn Hwlffordd â'u gwasanaeth band eang cyflym iawn sef Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad.
Wrth sôn am ei gyfarfod gyda Justin Leese, Prif Swyddog Technoleg a Gweithrediadau Ogi, dywedodd Mr Davies, "Roedd hi’n bleser gen i weld y dechnoleg sy'n galluogi trigolion Hwlffordd i gael eu cysylltu â gwasanaeth band eang cyflym iawn, Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad. Dydy mynediad i fand eang cyflym dibynadwy erioed wedi bod yn bwysicach gan fod llawer o bobl yn gweithio gartref, a mwy a mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein heb sôn am yr holl wasanaethau ffrydio."
"Gan fod trigolion Hwlffordd bellach â’r opsiwn o allu defnyddio gwasanaeth Ogi, mae hyn yn gwella cysylltedd ac yn cyflymu'r trawsnewid digidol yn Sir Benfro."
"Roeddwn hefyd yn falch o glywed am y camau mae Ogi wedi eu cymryd i gefnogi'r gymuned mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae ganddynt gytundeb noddi gyda Chlwb Pêl-droed Hwlffordd ac mae’r stadiwm wedi cael ei hailenwi'n Stadiwm Ogi Bridge Meadow."