Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, yn annog pawb ledled Sir Benfro i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni. Mae'r digwyddiad, a gynhelir eleni ar 28, 29 a 30 Ionawr, yn gofyn i'r cyhoedd dreulio dim ond awr yn gwylio a chofnodi'r adar yn eu gardd, eu balconi neu'r parc lleol, ac yna anfon eu canlyniadau at yr RSPB. Yma yng Nghymru y llynedd, fe wnaeth 53,279 o bobl dreulio awr yn gwylio'r adar sy'n ymweld â'u gerddi neu eu man awyr agored, sef dwywaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, a dychwelwyd 33,385 o arolygon.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld pa mor bwysig yw'r byd naturiol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Bu cynnydd aruthurol yn y diddordeb mewn byd natur ar garreg ein drws ac mae llawer o bobl wedi dod i ddibynnu ar adar yr ardd i godi'r galon yn y cyfnod anodd sydd ohoni.
Mae'r arfer o dreulio awr bob blwyddyn, dros y pedwar degawd diwethaf, yn golygu taw digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yw'r prosiect gwyddoniaeth bywyd gwyllt yr ardd mwyaf i ddinasyddion. Gyda'r prosiect yn 43 mlwydd oed eleni, mae ymhell dros 150 miliwn o adar wedi'u cyfrif gan roi cipolwg rhyfeddol i'r RSPB ar gyflwr ein bywyd gwyllt.
Dywedodd Mr Davies, "Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ffordd wych i ni i gyd gysylltu â natur a helpu i gasglu gwybodaeth werthfawr ar gyfer yr RSPB. Mae hefyd yn hollbwysig wrth bennu tueddiadau'r boblogaeth a chanfod pa adar sydd angen ein help. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl ym mhob cwr o'r sir yn cymryd rhan y penwythnos hwn - cofiwch lapio'n gynnes!"
Ers pedwar degawd, mae Gwylio Adar yr Ardd wedi tynnu sylw at rai sydd ar eu hennill a'u colled. Aderyn y to sy'n parhau ar frig tabl Gwylio Adar yr Ardd, fel yr aderyn mwyaf cyffredin a welwyd mewn 76% o erddi gydol y penwythnos. Llamodd y drudwen i'r 2il safle, gan ddisodli'r titw tomos las i'r 3ydd safle, a gwelsom y robin yn dringo tri lle i'r 6ed safle.
Er mai adar y to a'r drudwy yw rhai o adar mwyaf cyffredin y DU, wrth graffu'n fanylach ar ddata Gwylio Adar yr Ardd, gwelwn fod y niferoedd wedi gostwng yn ddramatig ers dechrau'r prosiect ym 1979. Mae adar y to wedi gostwng 58% tra bod y drudwy i lawr 83%.
I gymryd rhan yn ymgyrch Gwylio Adar yr Ardd 2022, ewch ati i wylio'r adar yn eich gardd neu'r parc lleol am awr rywbryd dros y tridiau. Cofiwch mai dim ond cyfri'r adar sy'n glanio sy’n rhaid i chi wned, nid y rhai sy'n hedfan uwchben. A chofiwch nodi uchafswn pob rhywogaeth o aderyn a welwch ar unrhyw un adeg – nid y cyfanswm rydych chi’n eu gweld mewn awr.