Mae deiseb newydd sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt ar y Bil Awtistiaeth yn cael cefnogaeth yr Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies. Cafodd Bil Awtistiaeth Mr Davies ei wrthod mewn pleidlais gan Lafur Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2019 ac mae ymgyrchwyr bellach yn galw am ddadl newydd ar ddeddfwriaeth awtistiaeth wrth i bobl barhau i wynebu heriau wrth geisio cael mynediad at gymorth a gwasanaethau pwysig.
Dywedodd Mr Davies, "Mae pobl ag awtistiaeth wedi aros yn ddigon hir ac felly rwy'n falch o weld y mater hwn yn ôl ar yr agenda wleidyddol. Bydd Bil Awtistiaeth yn sicrhau bod strategaeth awtistiaeth genedlaethol i Gymru yn ofyniad statudol, a byddai'r gwasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl eu derbyn wedyn yn rhan o gyfraith gwlad. Byddai hyn yn darparu atebolrwydd ac yn anfon neges gref bod Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn derbyn gwasanaethau hygyrch o ansawdd uchel.”
“Rwy'n cefnogi deiseb Mr Grennan i'r carn, ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried yr achos dros ddeddfwriaeth awtistiaeth o ddifri. Mae angen gweithredu ar frys nawr i helpu pobl ag awtistiaeth i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Nodiadau i Olygyddion – mae'r ddeiseb ar gael yn - https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246466