Mae’ch Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies yn cefnogi Diwrnod Amser i Siarad 2021. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ymdrech genedlaethol i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl, gan helpu i ddileu’r stigma.
Meddai Mr Davies, “Mae iechyd meddwl gwael yn gallu effeithio ar bobl o bob oedran a chefndir, ac mae’n hollbwysig ein bod yn mynd ati i fyfyrio ar ein llesiant ein hunain ac estyn allan at aelodau’r teulu ac anwyliaid. Y thema eleni yw ‘Pŵer y Pethau Bychain’ sy’n ein hatgoffa bod sgyrsiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth. Rwy’n gwybod bod Covid-19 yn cael straen enfawr ar iechyd meddwl rhai pobl ac rwy’n annog pawb ledled Sir Benfro i ofalu am ei gilydd a dod yn gyfarwydd â’r cymorth sydd ar gael.”
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yma - https://www.timetochangewales.org.uk/cy/ymgyrchoedd/diwrnod-amser-siarad-2021/time-talk-day-2021-resources/