Mae’r AS lleol Paul Davies yn cefnogi galwadau i fwy o’r Lluoedd Arfog gael eu defnyddio dan delerau Cymorth Milwrol i Awdurdodau Sifil er mwyn helpu gyda’r gwaith o rannu brechlyn Covid. Dywedodd Mr Davies fod yn rhaid i’r Gweinidog Iechyd ystyried unrhyw fesur a phob mesur i gyflymu darpariaeth y brechlyn yng Nghymru, gan gynnwys gofyn am gymorth ychwanegol gan y Lluoedd Arfog.
Meddai Mr Davies, “Mae cyflwyno’r brechlyn ledled Cymru mor bwysig fel bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru bwyso a mesur pob cyfle i gyflwyno’r brechlyn yn ein cymunedau. Mae’n rhaid i hynny gynnwys ystyried sut gall y lluoedd arfog helpu i rannu’r brechlyn ledled y wlad. Mae gennym nifer o farics a gorsafoedd ledled y wlad a gallai’r lluoedd arfog roi hwb sylweddol a helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu brechu’n gyflym. Felly, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio’r lluoedd arfog i helpu i hybu darpariaeth y brechlyn gan roi rhagor o gyfleoedd i bobl gael eu brechu cyn gynted â phosibl.”