Wrth nesáu at Sadwrn y Busnesau Bach ar 5 Rhagfyr, mae’r Aelod lleol o Senedd Cymru, Paul Davies, yn annog pobl o bob cwr o Sir Benfro i wneud yr hyn a allan nhw i gefnogi busnesau bach ledled y sir. Nod yr ymgyrch yw sicrhau cefnogaeth eang i fusnesau bach ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi, mewn blwyddyn fasnachu anodd.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n cefnogi Sadwrn y Busnesau Bach ac rwyf wir yn gobeithio y bydd pobl o bob cwr o Sir Benfro yn manteisio ar y cyfle i wneud hynny. Mae yna gymaint o ffyrdd o gefnogi busnesau lleol, fel prynu eitemau yn y siop neu ar-lein neu hyd yn oed adael adolygiad neu neges ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau bach i ehangu eu cyrhaeddiad a denu cwsmeriaid newydd. Mae’r holl gamau hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’n busnesau lleol gwych ac yn annog eraill i ystyried sut y gallant eu cefnogi hefyd. Gall pawb wneud rhywbeth i helpu i ddiogelu swyddi a bywoliaeth trigolion lleol. Felly, gobeithio y bydd pawb ledled Sir Benfro yn ymuno â fi i gefnogi Sadwrn y Busnesau Bach ac i helpu i ddiogelu a chefnogi ein busnesau lleol pwysig.”