Mae ymgyrch i gydnabod rôl hollbwysig gofalwyr ledled Cymru yn cael ei chefnogi gan yr Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies. Mae Mr Davies yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2021, sef ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am ofalu a thynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ledled y wlad.
Ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2021, mae’r elusen Carers UK yn gweithio mewn partneriaeth ag Age UK, Ymddirieodlaeth y Gofalwyr, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Oxfam GB a Rethink Mental Illness i helpu i godi ymwybyddiaeth o ofalu ledled y wlad. Mae’r chwe elusen sydd wrth wraidd Wythnos Gofalwyr 2021 yn galw ar unigolion, gwasanaethau a sefydliadau i wneud eu rhan i sicrhau bod Gofalu yn cael ei Weld a’i Werthfawrogi - gan gydnabod cyfraniad gofalwyr a’u helpu i gael y cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol sydd ei angen arnynt i ofalu am anwyliaid.
Meddai Mr Davies, “Mae’n anrhydedd i mi gefnogi’r Wythnos Gofalwyr a gwneud yr hyn y gallaf i dynnu sylw at y cyfranogiad pwysig mae gofalwyr yn ei wneud yn Sir Benfro a thu hwnt. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gofalwyr yn ein cymunedau lleol a byddaf yn sicr yn codi proffil gofalwyr drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion y Llywodraeth ac ymgyrchu dros fwy o gefnogaeth i wasanaethau lleol. Thema ymgyrch eleni yw Gweld a Gwerthfawrogi Gofal ac felly gobeithio y bydd pawb ledled Sir Benfro yn ymuno â mi wrth ddiolch i’n gofalwyr lleol am bopeth y maen nhw’n ei wneud a manteisio ar y cyfle'r wythnos hon i gymryd rhan a chefnogi Wythnos Gofalwyr 2021.”