Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd lleol, wedi cymryd rhan mewn dadl yn y Senedd ar ddementia ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig. Galwodd hefyd ar Weinidogion i sicrhau bod cymorth Cymraeg ar gael i bawb sydd ei angen.
Meddai Mr Davies: “Amcangyfrifir bod oddeutu 1300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro ac er bod y bobl hynny’n byw yn y gymuned, mae llawer ohonynt yn teimlo nad ydynt yn rhan ohoni. Rwy’n gwerthfawrogi bod darparu cymorth a gofal priodol i’r rhai sy’n byw gyda dementia mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn heriol, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth, ymwybyddiaeth gyffredinol o ddementia a mynediad at gymorth Cymraeg. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud mwy i alluogi pobl sy’n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro er mwyn iddynt allu teimlo yn fwy hyderus pan fyddant allan yn y gymuned. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ledled y Sir ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny a rhannu arfer gorau mor eang â phosibl, er mwyn i fwy a mwy o bobl yn Sir Benfro a thu hwnt allu elwa.”