Mae’r AS lleol Paul Davies wedi cymryd rhan ym more coffi blynyddol Macmillan i helpu i godi ymwybyddiaeth o waith Macmillan a chefnogi’r bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn Sir Benfro. A’r ymgyrch yn 30 eleni, mae’r digwyddiad codi arian i achos da fel arfer yn codi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i helpu i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Mae’r elusen yn amcangyfrif y gallai weld gostyngiad o £20 miliwn yn ei hincwm eleni o’r boreau coffi ledled Cymru a’r DU yn ehangach, er bod angen cefnogaeth nawr yn fwy nag erioed ar bobl â chanser yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
Meddai Paul Davies AS: “Rwyf wrth fy modd o gael cefnogi bore coffi Macmillan eto eleni. Mae Covid-19 yn her enfawr i elusennau fel Macmillan ac mae’n parhau i gael effaith frawychus ar y rhai sy’n dioddef canser ledled Sir Benfro. Rwy’n falch o godi fy mhaned heddiw i gefnogi’r digwyddiad ac annog rhoddion. Er ei fod eleni’n wahanol i’r arfer, yn rhithwir ac yn dilyn mesurau cadw pellter, mae’r holl foreau coffi yn dal i gael eu cynnal ac rwy’n erfyn ar bobl ledled Sir Benfro i ddangos eu cefnogaeth drwy godi paned a chefnogi gwaith Macmillan yng Nghymru.”