Mae Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro Paul Davies wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at bryderon ynghylch trefniadau brechlyn i oedolion ag anableddau dysgu mewn lleoliadau cartrefi gofal. Galwodd Mr Davies ar y Gweinidog Iechyd i weithio gyda lleoliadau gofal i sicrhau bod preswylwyr sy’n agored i niwed a’r rhai sydd ag anableddau dysgu yn gallu cael y brechlyn yn eu lleoliad gofal, yn hytrach na gorfod cael eu cludo i ganolfannau brechu. Galwodd Mr Davies hefyd am gefnogaeth ehangach i’r sector er mwyn diogelu darpariaeth yn y dyfodol a sicrhau cynaliadwyedd y sector ar ôl y pandemig.
Meddai Mr Davies, “Mae’n hanfodol fod preswylwyr mewn lleoliadau gofal yn gallu derbyn eu brechlyn yn gyfforddus a chyda cyn lleied o ofid â phosibl. Ar ôl clywed pryderon lleol gan ddarparwyr, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i’r sector. Rydym ni hefyd yn gwybod bod llawer o gartrefi gofal mewn perygl o gau a’u bod wedi gorfod ysgwyddo costau uwch yn ystod y pandemig. Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gynnig cynlluniau cadarn ac adnoddau er mwyn cefnogi’r sector yn well a diogelu cartrefi gofal a phreswylwyr at y dyfodol.”